Author Topic: Mynwent Llanddeiniolen  (Read 4796 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Mynwent Llanddeiniolen
« on: Thursday 11 February 10 20:23 GMT (UK) »
Pryd oedd y claddedigaeth cyntaf yn y fynwent hon ?
Beth am y claddedigaethau cyn hynny ?
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #1 on: Thursday 11 February 10 22:59 GMT (UK) »
Dyma y Cofrestrau sydd yng Nghaernarfon


 Bedydd 1575-1832 
Priodasau 1575-1935 
Claddu 1575-1946

Mae yna eglwys ers tua 580AD yn ol y wefan yma

http://www.churchinwales.org.uk/bangor/diocese/parish_details/arfon/stdeiniol.html

Cyn hynna buaswn yn meddwl edrach yn y tumulii!!  :)

http://en.wikipedia.org/wiki/Tumulus

Gwil





Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #2 on: Sunday 21 March 10 10:16 GMT (UK) »
Huwcyn
Gan eich bod wedi agor llawer o o edau eraill mae'n edrach debyg nad oedd yr  amser a roddais i edrych y gwybodaeth yma i fynny a'i bostio ddim o werth.  :(
Oedd rhywbeth o'i le?

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #3 on: Sunday 21 March 10 10:26 GMT (UK) »
Dim byd , maddeuwch i mi. Petai'r amser gennyf, buaswn yn treulio trwy'r dydd yn yr archifdy !
Yn anffodus, yr wyf yn byw'n bell iawn o Gaernarfon, gyda teulu ifanc. Llwyddais i gael 45 munud gwerthfawr yno rhyw fis yn  ol - ond mae'r teulu'n dioddef os yr wyf yn treulio mwy o amser gyda'r meirwon na'r byw !. Amser ydi'r bwgan mawr - os yw'r gwybodaeth ar gael ar y we, mae'n haws (ond yn llai difyr) ei gasglu fesul dipyn fel yna .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #4 on: Sunday 21 March 10 10:53 GMT (UK) »
Diolch Huwcyn

Y broblam gyda'r Cofrestarau cynnar ydi nad ydi hi yn haws iawn weithia  i adnabod pwy ydych yn chwilio amdanynt gan yn amal nid oes cyfeiriad etc i'w gael a fod bron pawb gyda yr un enw! A'r patronymics wrth gwrs. Hefyd mae rhei yn anodd i'w darllen.

Dyma rhei cynnar plwy Llanberis lle, os cofiaf yn iawn, mae rhei o drigolion cynnar  plwy Lllanddeiniolen

http://web.archive.org/web/20050310035956/http://www.aprheinallt.plus.com/index.html

Edrychwch i lawr y chwith





Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #5 on: Sunday 21 March 10 10:56 GMT (UK) »
Trigolion cynnar rhan uchaf plwyf llanddeiniolen dwi/n ei feddwl

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #6 on: Sunday 21 March 10 11:18 GMT (UK) »
Diolch. Credaf fod gennyf ryw 6 cart achau a oedd yn seiliedig ar waith Mr Gwilym Roberts , a ddaeth i'm llaw drwy berthynas iddo. Mae'n rhaid mai seiliedig ar y rhain oedd y gwaith. Mae hon yn wefan ddiddorol iawn, ond sylwais nad oes modd cysylltu a Maredudd Ap Rheinallt bellach. Mae ei waith ef ar yr enw 'Foulkes', yn enwedig, yn dra pwysig i mi. A ydych yn gwybod sut y gallaf gael gwybod os yw wedi gwneud gwaith mwy diweddar , neu sut mae modd cysylltu ag ef ?. (drwy PM , wrth gwrs)
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #7 on: Sunday 21 March 10 11:51 GMT (UK) »
Yr unig ffordd (heblaw trio google ayyb) a allai feddwl ydi ebost i Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd yn gofyn iddynt yrru iddo yn ei wahodd i ddod mewn cyswllt a chi. Hynny ydi, os ydio'n aelod wrth gwrs.

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Mynwent Llanddeiniolen
« Reply #8 on: Sunday 21 March 10 11:56 GMT (UK) »
OK , diolch yn fawr eto.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn