Author Topic: Eglwys Llanddinorwig  (Read 5041 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Eglwys Llanddinorwig
« on: Friday 02 April 10 19:33 BST (UK) »
Wrth chwilio am feddau rhai perthnasau o ardal Deiniolen, dwi wedi bod yn chwilio yn Macpellah , Llanddeiniolen a St Helen, a heb gael hyd i rai pobl .  Oedd pobl oedd ddim yn eglwyswyr yn cael ei claddu yn mynwent hon ?. Dwi'n gwybod i rai perthnasau gael eu claddu yma, ond dwi'n gwybod mai mynd i'r eglwys oeddan nhw . Pryd agorwyd y fynwent, ac oes yna fanylion ar ei chyfer hi rywle ?
                 Mi fues i mewn gwasanaeth yno un tro pan yn hogyn bach . Peth rhyfedd iawn , oherwydd cyn hynny, nid oeddwn yn gwybod fod yna ffasiwn beth a gwasanaethau Cymraeg mewn eglwys .
Yn Bangor ( i feddwl plentyn) , dim ond Cymry Cymraeg oedd yn mynd i capeli, a dim ond Saeson oedd yn mynd i'r eglwys !
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #1 on: Monday 05 April 10 18:34 BST (UK) »
Sefydlwyd yr Eglwys ac agorwyd y fynwent yn 1857. 'Roedd pobl capel Ebenezer yn cael eu claddu yno hefyd ond dwi'm yn siwr o pa bryd. Mae fynwent bach y tu cefn i Capel Ebenezer hefyd. Mae'r MIs gennyf.
Oes gynnoch chi enw a dyddiad marw?

Gwil

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #2 on: Monday 05 April 10 18:59 BST (UK) »
Neb o Ebenezer - alla i ddim cofio neb o fy nheulu'n mynd yna byth !
Ydi'r MI's ar gyfer Llanddinorwig gennych ?
Chwilio am feddi merched Glanrhydfadog ydw i - Prissie a Mai Roberts a Katie Jones.
Mi fu Mai farw tua 1971, Prissie union 20 mlynedd yn ol a Katie tua 1993/1994 .(enw gwr Katie oedd
Hugh Arthur Jones , marw  tua 1964)
Mae eu brawd , Robert Idwal , yna rhywle hefyd.
Dwi'n meddwl ei fod o wedi marw tua 1955.

Enw eu rhieni oedd John a Laura Roberts .
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #3 on: Monday 05 April 10 19:40 BST (UK) »
Dwi'm yn siwr yn lle mae John a Laura(os ydynt yna) ond wedi gyrru llunia o feddau y  'plant' i chi
Sgynnoch ddyddiad marwolaeth i John a Laura?

Gwil


Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #4 on: Monday 05 April 10 19:45 BST (UK) »
Fe gafodd y ddau eu geni yn yr 1860'au , felly mae'n rhaid fod y ddau wedi marw o gwmpas neu cyn adeg rhyfel.  Diolch yn fawr.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Hughes17

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 92
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #5 on: Monday 05 April 10 22:16 BST (UK) »
Mae gen i John a Laura Roberts yn byw yn Caena Uchaf Rd yn 1901 ar fy ngoeden. Yn 1901 roedd ganddynt dwy o ferched Lizzie Mary ac Prissila Maud.

Ydan ni son am yr un pobl?

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #6 on: Monday 05 April 10 22:59 BST (UK) »
Mae'n rhaid  ein bod ni.  Elizabeth May a Priscilla Maud oedd eu henwau , ond Prissie a Mai oedd
pawb yn eu galw.
Mi oedd y ddwy yn gyfnitherod i nain ( dwi'n meddwl mai Prissie oedd morwyn briodas nain)
Mi oedd Laura Roberts (Owen cyn priodi) yn chwaer i John Robert Owen , fy hen-daid.
Mi ddaru nhw etifeddu Glanrhydfadog gan chwaer arall Jane, dwi'n meddwl.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Hughes17

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 92
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Eglwys Llanddinorwig
« Reply #7 on: Monday 05 April 10 23:12 BST (UK) »
Perthyn i John Roberts ydw i - Roedd John yn gefnder i fy hen nain. Fedrai ddim eich helpu mae gen i ofn.