Author Topic: Cyfrifiad Cymru 1911 ar gael ar lein yn ddi-dāl?  (Read 5334 times)

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Cyfrifiad Cymru 1911 ar gael ar lein yn ddi-dāl?
« on: Friday 25 June 10 04:33 BST (UK) »
Wrth edrych yn blygeiniol ar fy nghopi cyfredol o Golwg sylwais ar erthygl fer iawn ar dop dde tudalen 9:

Golwg ar Fywyd Can Mlynedd yn Ōl
O yfory (dydd Gwener) mae manylion Cyfrifiad 1911 ar gael am ddim ar lein. Fe fydd yn wybodaeth hanfodol wrth ymchwilio i hanes teuluol ar wefan Archifau Cymru:

www.archifaucymru.org.uk


Yr wyf wedi rhoi clec ar y ddolen, ond nid oes son am y cyfrifiad yno eto, ond mae'n parhau i fod yn gynnar y bore'! Os yw'r erthygl yn gywir mi fydd yn newyddion da iawn i achyddion Cymru.

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Cyfrifiad Cymru 1911 ar gael ar lein yn ddi-dāl?
« Reply #1 on: Saturday 26 June 10 23:50 BST (UK) »
Wedi gwneud yr un peth a chi; chwiliwch am 'cyfrifiad 1911' ar eich peiriant chwilio ac mi gewch y newyddion ar wefan y Cynulliad, ond mae'n ymddangos mai dim ond yn yr archifdai sirol (a'r Llyfrgell Genedlaethol) y bydd y gwasanaeth ('ar-lein'!) i'w gael. Hwyrach y daw o i'r llyfrgelloedd ryw ddydd . . .
                       Pinot  :(