Author Topic: Buarth y Beren, Llanddeiniolen  (Read 6459 times)

Offline wheldon

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 103
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« on: Saturday 21 May 11 20:56 BST (UK) »
A oes rhywun a unrhyw wybodaeth am John Williams a'i deulu a oedd yn byw yn Buarth y Beren, Llanddeiniolen yn y 19ed ganrif? Bu rhai o'i feibion yn gweithio yn chwareli Newfoundland, ac fe briododd un mab a merch wedi ei geni yno. Mae'r ddau yn Buarth y Beren yng nghyfrif 1881.

Offline Gwil

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 732
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #1 on: Saturday 21 May 11 23:57 BST (UK) »
Mae John Williams wedi ei gladdu yn lleol yn Macpellah. Bu farw Hydref 17 1885 yn 74 ml oed a claddwyd o yn bedd ei ferch Anne (Wilson) a fu farw Hydref 17 1872 yn 27 a'i gwr Robert Wilson, Hydref 5 1868 yn 23.
Tydi Sarah ddim ar y garreg ond wrth gwrs, tydi hynny ddim yn golygu nad ydi yna.  Mae'r llyfr claddu ar gael yn yr Archifdy. Welai mohoni yn y 1891.
Gwil

Offline wheldon

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 103
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #2 on: Sunday 22 May 11 10:39 BST (UK) »
Diolch am y wybodaeth. Mi chwiliai am ewyllys ar ancestry rwan.

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,586
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #3 on: Sunday 22 May 11 16:42 BST (UK) »
'Dych chi wedi dod o hyd iddyn nhw yng nghyfrifau cynharach?

1871 RG10 5717 39 2
1861 RG09 4340 65 2
1851 ?
1841 HO107 1394 11/50 16 - posibilrwydd?

Alla i ddarparu manylion.

cofion cynnes 


Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,586
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #4 on: Sunday 22 May 11 17:17 BST (UK) »
1851 HO107 2525 427 24

Cyfeiriad - Gallt y Voel, Llanddeiniolen

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,586
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #5 on: Sunday 22 May 11 18:25 BST (UK) »
Cwpl o erthyglau ym mhapurau'r cyfnod

North Wales Chronicle, Saturday, July 25, 1863
Bangor Musical and Literary Festival
Competition in singing any Welsh air; best John Williams, Buarth Beren

Y Genedl Cymreig, Thursday, August 26, 1880
Ysgol Y Bwrdd, Deiniolen
..... Gan fod yr hen wron John Williams, Ysgoldy, wedi ei luddias i fod yn presenol yn y cyfarfod, cymerwyd ei le gan y llaraidd a'r ffyddlawn John Williams, Buarth Beren, gan yr hwn y cafwyd gair yn fyr ac i'r pwrpas ar y priodoldeb i'r aelodau dalu i'r Undeb yn gyson a rheolaidd.

Y Genedl Cymreig, Thursday, November 10, 1881
EBENEZER, ARFON
Cyngherdd gan Chwarelwyr Cymreig yn Newfoundland - Y chwarelwyr hyn ydynt feibion a wyrion i John Williams, Buarth Beren - teulu adnabyddus am eu talent gerddorol........

Oes mynediad 'da chi at  papurau newyddion y 19ed ganrif ar lein? Ar gael gan Y Lyfrgell Genedlaethol. Fel arall, galla i ddarparu manylion

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,586
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Buarth y Beren, Llanddeiniolen
« Reply #6 on: Sunday 22 May 11 18:47 BST (UK) »
Priodas bosibl?

John Williams and Sarah Jones, 2 Jan 1835, Llandegai, Wales

Cafodd Sarah, gwraig John Williams, ei geni yn Llandegai yn ôl y cyfrifau.

IGI Family Search - extracted record.

cofion cynnes