Author Topic: Cyfieithu  (Read 5039 times)

Offline GPJ

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 47
  • pwy yw'r dyn yn y llun? Who is in the photo?
    • View Profile
Cyfieithu
« on: Monday 12 September 11 22:22 BST (UK) »
Shwd mae
Rwy'n trio darganfod ystyr enw Ty o'r enw "Cystanog".  Rwy'n gwybod am lle o'r enw Cystanog, ond os unrhywun yn gallu egluro beth maen meddwl?

diolch

GPJ
Jones Abercraf/Epynt/Ystradfellte
Davies Llanegwad
Williams Rhiw fawr
Cottinghams

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Cyfieithu
« Reply #1 on: Tuesday 13 September 11 00:25 BST (UK) »
Dyma ddyfyniad o lyfr Melville Richards, 'Enwau Tir a Gwlad'(1998), yr unig le y gallwn weld unrhywbeth perthnasol: 'Enw od yr olwg yw Llangasty Tal-y-Llyn ger Llyn Syfadden yn Sir Frycheiniog. Y ffurfiau hynaf yw Llangasten a St. Castayn, ac y mae hyn yn awgrymu mai Casten neu Castain yw enw'r sant. Ond ni wyddys mwy amdano na bod Gastayn wedi bedyddio Cynog fab Brychan.'
            Ar ol gwneud Google ar eich Cystanog rwy'n gweld mai yn Abertawe a Sir Benfro mae'r enw'n ymddangos; alla'i ddim meddwl am unrhyw ffordd i'ch gyrru ymhellach ymlaen. Pob hwyl,
                                                Godo