1
Denbighshire / Darlith Gyhoeddus - Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych @ Carchar Rhuthun
« on: Thursday 12 September 13 14:10 BST (UK) »Darlith Gyhoeddus - Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych
Dydd Iau 17 Hydref 2013, 6pm-7.30pm
Mae Staff Archifdy Sir Ddinbych yn cynnal noson o sgyrsiau ar hanes Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Mae’r prif gasgliad o gofnodion yr ysbyty ar gael a chadw yn y swyddfa gofnodion yng Ngharchar Rhuthun. Mae'r casgliad yma ymhlith y casgliadau gorau yn y wlad o gofnodion noddfa o’r bedwaredd ganrif a’r pymtheg a'r ugeinfed ganrif. Maen nhw’n adlewyrchu'r newidiadau a’r datblygiadau o ran triniaethau ac agweddau tuag at salwch meddwl. Bydd Dr Pamela Michael, Darlithydd Astudiaethau Iechyd a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn siarad am hanes yr ysbyty gan ganolbwyntio ar rôl merched – yn staff ac yn gleifion. Ei meysydd diddordeb ydi hanes merched Cymru, hanes polisi cymdeithasol ac iechyd a salwch meddwl yng Nghymru. Yn 2003 cyhoeddodd astudiaeth ar ofal a thriniaeth pobl â salwch meddyliol yng ngogledd Cymru - Care and Treatment of the Mentally Ill in North Wales, 1800-2000 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003).
Bydd Clwyd Wynne, a fu’n gweithio yn yr ysbyty am ddeng mlynedd ar hugain, yn sgwrsio am ei fywyd fel aelod o staff ac am waith Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru o ran rhoi atgofion cyn-aelodau o staff a chleifion yr ysbyty ar gof a chadw.
Bydd Jane Brunning, yr Uwch Archifydd, yn rhoi trosolwg o’r cofnodion sydd yn yr archifdy - bydd rhai ohonyn nhw wedi eu harddangos ar y noson.
Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly ffoniwch neu e-bostiwch rŵan i gadw’ch lle.
01824 708250
archifau@sirddinbych.gov.uk