1
Cymraeg - Welsh Language / Linc: Beibl Cymraeg 1588 Llyfrgell Genedlaethol Cymru
« on: Tuesday 19 April 05 20:23 BST (UK) »
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan gan gynnwys yr Apocryffa yn y flwyddyn 1588. Gwaith William Morgan, 1545-1604, ydoedd, gŵr a aned ym Mhenmachno, Conwy ac a raddiodd o Goleg Ieuan Sant yng Nghaergrawnt. Argraffwyd y gyfrol ffolio hon mewn llythyren ddu gan ddirprwyon Christopher Barker, Argraffydd i'r Frenhines, ac fe'i bwriadwyd i'w defnyddio mewn eglwysi yn hytrach nag yn y cartref.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c076.htm
Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c076.htm