Hi, If at all possible could someone translate this for me please. It is the obituary for my gt gt gt grandfather. My limited welsh thinks that it says something along the lines of he was very sad at his neice dying and that he was a good member of the church and worked his whole life as a quarryman, but its a little confusing at times for my limited welsh... any help would be great - thankyou to anyone willing to take the time to help me.
Blin genym gofnodi am ymadawiad sydyn ac anisgwyliadwy yr hen frawd hynaws William Kerfoot, Pengelli. Tarawyd ef yn wael yn nh ei ferch a'i fab ynghyfraith. yr wythnos ddiweddaf ymhen ychydig oriau ar ol angladd ei wyres. diameu genym i'r brofedigaeth lem hono bwyso llawer ar ei feddwl. yr oedd ef a'i briod alarus wedi ei mhagu yn anwyl ac edrychent bob amser arni fel ei plentyn anwylaf ac mae afon cydymdeimlad yr ardal yn sicr o fod yn llifo tuag at ei rhian weddw erbyn hyn ar gweddill o'r teulu yn y ddwy brofedigaeth agos ac anisgwyliadwy. dioddefodd yr hen frawd wythnos o gystudd caled a thrwn trwy iddo gael ymosodiad poenus o anhwylder ar yr afu, ac ehedodd ei ysbryd yn dawel. haner awr wedi tri o'r gloch. Yr oedd yn gymeriad a fawr hoffid gan ei gydweithwyr, ac yr oedd wedi treulio y gyfran fwyaf o'i oes yn mysg chwarelwyr yr ardal hon, yr oedd yn gweithio ers blynyddau yn Votty a Bowydd. Yr oedd yn aelod selog o Eglwys y Tabernacl ac yn cymeryd dyddordeb yn mhob un o gyrddau yr eglwys, ac erbyn heddyw gall fwynhau y gyfeillach berffaith fry. Lle nad oes neb yn tynu yn groes na chlaf o fewn eu chaerau. Mae i'r weddw a'r plant a Mrs Pugh fu'n ofalus o hono, ein cydymdeimlad llwyraf. Teimla'r teulu'n rhwymedig i Dr Jones a'r Nurse Jones. Cleddir yn Methesda ddydd Iau. Y Glorain 20th April 1912.