Dyma gais anodd iawn ei ateb. I fod yn gignoeth onest, oni bai bod perthynas agos iddi yn digwydd taro ar eich cais, mae'n annhebygol daw ateb llawn i'r seiat yma.
Bydd modd cael ei hunion ddyddiad geni gan Gofrestrydd GPM Llandudno. Manylion cyswllt yma:
http://www.conwy.gov.uk/doc.asp?cat=1228&doc=2068Os bu farw Elizabeth ar ôl 1984, ac os ydych yn digwydd gwybod be oedd ei henw priod ac ym mhle y bu farw mae yna bosibilrwydd bydd ei hunion ddyddiad geni a marwolaeth ar fasdata'r Cofrestrydd Cyffredinol sydd ar gael ar Ancestry.co.uk. Os nad ydych yn aelod o Ancestry gallwn wneud ymchwiliad ar eich rhan o gael y wybodaeth ychwanegol angenrheidiol.
Os ydy Penglogor, Llansannan yn fferm, mae'n werth trio'ch lwc trwy ddanfon llythyr i ddeiliaid presennol y fferm i holi os ydy'n parhau yn nwylo'r un teulu ac os oes gwybodaeth ganddynt hwy am hynt y rhai a oedd yn byw yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Fe gostith dim ond pris stamp a'r canlyniad gwaethaf bydd iddynt ddanfon llythyr cas yn ôl yn dweud wrthych am beidio â busnesa - gwerth ei drio, siawns
