Helo M. Diolch am gysylltu! Mae gennyf un Pierce Wheldon Jones heb ei ffitio i mewn ar y goeden. Ganed tua 1865 ac enw ei fam oedd Ann. Yng nghyfrif 1871 mae yn byw yn Braichmelyn, Llanllechid, hefo Edward ac Ann Jones. Yng nghyfrif 1881 mae Edward yn lysdad 'stepfather'. Yn fy nodiadau, mae yn briodas bosib rhwng Edward Jones ac Ann Jones yn chwarter Mawrth 1866 ym Mangor.
Priododd Pierce a Margaret Ann Jones, 1af Mehefin 1892yng nhgapel Bethesda. Ar y pryd roedd Pierce yn byw yn Well Street, Gerlan, Bethesda, ac enw ei dad ar y dystysgrif yw Edward Jones.
Ar Orffennaf 17, 1893 ganed mab iddynt Penry Wheldon yn Ogwen view, Bethesda ond bu farw.
Bu farw Pierce 11 Mawrth 1918; roedd yn byw yn Cilfoden Isaf, Bethesda.