Author Topic: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant  (Read 7435 times)

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« on: Friday 28 January 05 10:15 GMT (UK) »
Oes rhywun yn gallu fy helpu i ddarganfod genedigaeth neu bedydd fy hen daid yn Llanfihangel y Pennant?

Ei enw oedd Owen Pugh ac fe'i anwyd yng ngwharter Mawrth 1841
Diolch
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #1 on: Friday 28 January 05 11:36 GMT (UK) »
Ym mha Lanfihangel y pennant gafodd eich hen daid ei eni? Gan bod ddau ohonynt.

Mae Llanfihangel y Pennant Sir Feirionnydd yng Nghylch Abergynolwyn, a Llanfihangel y Pennant Sir Gaernarfon i'r gogledd o Borthmadog.

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #2 on: Saturday 29 January 05 07:25 GMT (UK) »
Diolch am ateb. Yn Llanfihangel y Pennant Meirionydd bu'n byw. Fe briododd Mary Williams yn chwarter Rhag 1868 ac maent yn byw ar fferm Tanygader ar ffordd Arthog allan o Ddolgellau erbyn cyfrifiad 1881. 
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #3 on: Saturday 29 January 05 11:33 GMT (UK) »
Os felly danfonwch e-bost i Dylan N Jones y cofrestrydd arolygol i Dde Meirionnydd yn Nolgellau gan amgáu gymaint o wybodaeth a sydd gennych chi am enedigaeth a phriodas eich hen daid:

dylannjones@gwynedd.gov.uk

Bydd Dylan yn rhoi gwybod i chi am yr holl wybodaeth sydd ar y tystysgrifau heb i chi orfod talu £7.00 am gopi o dystysgrif (oni bai eich bod am brynu copi). Hyd y gwyddwn Dylan yw’r unig gofrestrydd yng Nghymru a Lloegr sy’n fodlon gwneud hyn.



Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #4 on: Saturday 29 January 05 12:43 GMT (UK) »
A dyma fo yng nghyfrifiad 1871 yn byw yn Nhregerrig ger Tabor (nepell o hen dafarn y Cross Foxes)

RG10/5691 Ffolio 15 Tudalen 6

35   Dregerrig                  
Owen   Pugh   Head   Married   30   M   Farmer & Wheelwright 180 acres   Llanfihangel-y-Pennant MER

Mary   Pugh   Wife   Married   23   F      Dolgellau MER

Ann   Pugh   Daughter      2   F      Dolgellau MER

Mary   Pugh   Daughter      3 mo   F      Dolgellau MER

Evan   Jones   Visitor   Married   23   M   Clogs maker   Caernarvon CAE

Jane   Jones   Visitor   Married   24   F      Penmachno CAE

William   Jones   Servant      11   M      Dolgellau MER

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #5 on: Saturday 29 January 05 13:11 GMT (UK) »
Diolch o waelod calon. Roeddwn i wedi methu mynd yn ôl yn bellach na 1881 cyn hyn. Mae'r busnes hel achau yma yn newydd i mi, a nawr wedi ymddeol o ddysgu mae gen i'r amser i chwilota. Bydd yn rhaid i mi ymweld â'r lleoedd yma nawr o'r de pell !!!
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #6 on: Monday 21 February 05 20:52 GMT (UK) »
Petai rhywun yn gallu fy helpu i chwilio am yr un teulu yng nghyfrifiad 1851 neu 1861 baswn i'n ddiolchgar dros ben.
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #7 on: Tuesday 22 February 05 00:15 GMT (UK) »
Mi wnaf a chroeso, ond bydd raid i chi ddisgwyl tan y tro nesaf byddwyf yn ymweld â’r archifdy yn Nolgellau ymhen wythnos neu ddau. Mae copïau o gyfrifiadau 1841 a 1871-1901 gennyf adref , ond  nid rhai 1851 a 1861 yn anffodus.

Offline ElRow

  • RootsChat Member
  • ***
  • Posts: 197
    • View Profile
Re: Geni/bedydd Llanfihangel y Pennant
« Reply #8 on: Tuesday 22 February 05 08:53 GMT (UK) »
Diolch o galon. Erbyn hyn rwy wedi darganfod mai Efan Pugh a Mary Pugh (Lewis) oedd rhieni Owen Pugh. Mae'n debyg mai yn Llanfihangel y Pennant gafodd Owen ei eni ond does gen i ddim gwybodaeth am unrhyw frodyr na chwiorydd. Rwy wedi bod mewn cysylltiad â menyw o Loegr sy â chyndeidiau o'r ardal ac rydyn ni'n trio profi a ydyn ni'n perthyn neu beidio. Hoffwn ni wybod os ydy fy Evan Pugh i (dim dyddiad geni eto)a'i Robert Pugh hi (geni 1825) yn frodyr. Diolch o galon. Rydych yn hael iawn a'ch amser ac adnoddau.
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk