'Dwi 'di mynd yn hollol, hollol sownd ers beth amser gyda fy hen,hen daid. Fe gafodd ei ladd yn Dinorwig yn 1859 yn 33 oed , a'r enw ar y garreg fedd yw John Parry (mynwent Llanrug) . Y drws nesaf iddo mae bedd Richard Parry (1833? - 1856 ) , ac mae'r ddau gyda cysylltiad a Didfa yn Llanrug. Credaf i John Parry symud i fyw i Llanddeiniolen yn ystod y cyfnod 1851- 1859.
Enw gwraig John Parry oedd Cathryn Parry , a gwraig Richard Parry oedd Ellin Parry. Yr wyf yn cymeryd mai dau frawd oeddent , ond nid wyf yn hollol sicr . Roedd gan John Parry dri o blant, Jane (1855), Henry Pritchard (Parry)(1858) , ac Ellin (1859) . Dim ond cofnod o eni Henry yr wyf wedi llwyddo i ganfod . Ni allaf gael hyd i gofnodion prioadasau na geni'r rhieni ychwaith.
Yr oedd gan Richard Parry o leiaf un plentyn, William .
Nid wyf yn gallu cael unrhyw wybodaeth sicr cyn y cyfnod yma. Mae marwolaeth John Parry wedi ei gofnodi mewn un lle fel marwolaeth John H. Pritchard, ac mae censws 1851 yn rhoi teulu yn Bryn Mihangel, Llanrug gyda'r un enwau ac oedran a'r un gwaith a John/Richard , ond cyfenw gwahanol -sef Pritchard .
Enw'r tad yw Henry Pritchard . Ni allaf gael hyd i deulu sy'n 'match' cystal gyda'r cyfenw Parry .
Mae bedd y tu ol i rai John a Richard yn perthyn i Thomas Parry o Dol Helig , ac mae censws 1841 yn dangos fod gwas yno o'r enw John Pritchard a fuasai'r un oed a John Parry .
Mae'n ddipyn o lobsgows, a dweud y gwir ! Oes yna rhywun sy'n perthyn i'r Parrys/Pritchards yma i gyd (Mae yna rhyw hanes teuluol bod ni'n perthyn i Bob Parry, auctioneers) , neu'n gallu dweud oes fuasai yna rhyw reswm i ddau frawd newid eu henwau(neu beidio) , neu gallu dweud lle mae Bryn Mihangel, buaswn yn ddiolchgar tu hwnt am gymorth !