Y cwestiwn ydi, yda chi eisio ffeindio'r garreg yn arbennig, neu dyddiadau eu marwoleuthau? I mi, fasau'n gwneud mwy o synnwyr i ffeindio'r dyddiadau gynta', er mwyn gwneud hi'n hawddach ffeidio'r bedd.
Mae NorthWalesBMD yn dangos 15 John Hughes yn marw yn is-ardal Llanrug, rhwng 1891 a 1901, ond dim ond un Harriet Hughes rhwng 1901 a 1920,
yn 1908. Mae FreeBMD yn dangos bod hon yn 73 oed. Felly mae'n debyg mae hi ydi'r un cywir.
Os na cawch ateb ar y fforwm yma, fasw' ni'n awgrymu eich bod yn cysylltu a Cyngor Sir Gaernarfon, neu Cymdeithas Hel Achau Gwynedd
http://www.gwyneddfhs.org/ a holi pwy sy'n dal gofrestrau'r mynwentydd. Mae'n ddigon posib bod y ddau wedi eu claddu heb garreg fedd, ac felly bydd rhaid cyfeirio at blanniau'r mynwentydd.
Mae hwn yn swnnio'n gymleth, and mae'n siwr o fod yn werth yr ymdrech.
Pob hwyl,
Tecwyn.