Mae'r Llyfrgell Genedlaethol newydd lawnsio "Trosedd a chosb", cronfa data o enwau, troseddau a chosbau yn ffeiliau cachar y Sesiwn Fawr yng Nghymru rhwng 1730 a diddymiad y llys ym 1830:
http://www.llgc.org.uk/sesiwn_fawr/index_c.htmRoedd Llys y Sesiwn Fawr fersiwn Cymreig o llysoedd yr assize yn siroedd Lloegr. Caeth y llys hefyd rhan o awdurdod y Kings Bench yng Nghymru. Felly, roedd y llys yn gallu clywed bob math o achosion o fân-ladrad i
uchel-frad.
Dydy'r cofnodion ddim yn cynnwys achosion wedi'u clywed yn sir Fynwy, oherwydd roedd y sir hon rhan o gylchdaith assizes Rhydychen (ffynhonnell y celwydd bod sir Fynwy'n rhan o Lloegr). Beth bynnag, mae 'na achosion o diddordeb sir Fynyw, Lloegr a llefydd eraill dramor.
Mae 'na tipyn bach llai na 21,000 o achosion. Mae'r rhan fwyaf o'r maesydd ar y tudalen chwilio yn "free-text", felly does dim angen "wild-cards". Er enghraifft, bydd Ben yn un o'r maesydd enwau (erlynydd a throseddwr) yn dychwelyd yr enwau cyntaf/cyfenwau Benjamin ac Ebenezer, ac y cyfenwau Benion a Dolben.
(Gan Stephen Benham)