Rwy'n trio helpu i gasglu hanes eglwys Soar Maesyrhaf yng Nghastell-nedd. Ry'n ni ar hyn o bryd yn chwilio am wybodaeth ynglyn â Joseph Simons/Simmons oedd yn weinidog tan 1774 pan bu farw. Roedd ganddo fab o'r enw Noah oedd yn helpu ei dad yn y weinidogaeth. Aeth Noah i America tua 1794.