Author Topic: Llyfr Hel Achau  (Read 21036 times)

Offline Blaenau45

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 27
    • View Profile
Llyfr Hel Achau
« on: Saturday 16 October 10 14:16 BST (UK) »
A oes rhywun yn gwybod ym mhle y medraf brynu copi o "Achau Rhai o Deuluoedd Hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn" gan T Ceiri Griffith os gwelwch yn dda?  Cyhoeddwyd y llyfr yn 2003.
Jones - Harlech a Nant Gwrtheyrn.
Conway - Llanasa, Sir y Fflint.
Mather a Livsey - Tabley ac wedyn Talsarnau, Gwynedd
Census Information Is Crown Copyright,from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Dolgellau

  • -
  • RootsChat Senior
  • ****
  • Posts: 474
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #1 on: Saturday 16 October 10 19:52 BST (UK) »
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn breifat gan yr awdur. Nid ydym yn cael cyhoeddi manylion cyswllt yma am resymau ddiogelwch ond mae ei rif yn y llyfr ffôn:

http://www.thephonebook.bt.com/publisha.content/cy/search/residential/search.publisha?Surname=griffith&Location=chwilog&x=44&y=2&Page=3


Offline Blaenau45

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 27
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #2 on: Sunday 17 October 10 10:31 BST (UK) »
Diolch yn fawr iawn Dolgellau am fanylion yr Awdur.  Yn ôl pob sôn mae yr Awdur wedi cadw rhai copїau i'w pasio ymlaen i'w deulu ond nid oes ganddo gopїau dros ben.
Yr wyf wedi holi mewn amryw o siopau llyfrau ail-law ac wedi chwilio ar Amazon, AbeBooks a BookSwap.
Buaswn yn ddiolchgar iawn o gael unrhyw syniadau eraill!
Gyda diolch
Jones - Harlech a Nant Gwrtheyrn.
Conway - Llanasa, Sir y Fflint.
Mather a Livsey - Tabley ac wedyn Talsarnau, Gwynedd
Census Information Is Crown Copyright,from www.nationalarchives.gov.uk

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #3 on: Sunday 17 October 10 23:04 BST (UK) »
Mae'n llyfr braf iawn i'w gael o fewn hyd braich ac mi fum i'n ddigon lwcus i brynu un flynyddoedd yn ol; dylai bod copi ar gael yn eich llyfrgell lleol, yn yr adran cyfeirlyfrau; wrtrh gwrs dydi'r rhain ddim ar gael i'w benthyg fel arfer.
                       Pinot


Offline Blaenau45

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 27
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #4 on: Sunday 17 October 10 23:14 BST (UK) »
Diolch Pinot - mae un ar gael i'w ddefnyddio yn llyfrgell Caernarfon OND yr wyf eisiau ei gadw ar fy silff lyfrau adref!
Os clywch am unrhyw berson sydd am werthu ei copi, wnewch chi adael i mi wybod plîs?
Yr wyf yn mynd i ffonio'r awdur fory - croesi bysedd!
Gyda diolch
Jones - Harlech a Nant Gwrtheyrn.
Conway - Llanasa, Sir y Fflint.
Mather a Livsey - Tabley ac wedyn Talsarnau, Gwynedd
Census Information Is Crown Copyright,from www.nationalarchives.gov.uk

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #5 on: Monday 18 October 10 19:34 BST (UK) »
Dwi'n siwr y buasai'r awdur wedi gallu gwerthu miloedd ar filoedd o'r llyfr bellach.
Bobl bach, mae'n amhrisiadwy !
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #6 on: Monday 18 October 10 23:23 BST (UK) »
wnewch chi adael i mi wybod plîs?
Mi dria'i wneud hynny - deall yr awydd i gael copi ar y silff! Gobeithio'ch bod wedi cael canlyniad cadarnhaol o'r alwad ffo^n.
                          Pinot

Offline Blaenau45

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 27
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #7 on: Thursday 21 October 10 10:24 BST (UK) »
Dwi'n siwr y buasai'r awdur wedi gallu gwerthu miloedd ar filoedd o'r llyfr bellach.
Bobl bach, mae'n amhrisiadwy !
Diolch Huwcyn - yr wyf yn cydweld!

"Mi dria'i wneud hynny"
Pinot - buaswn yn ddiolchgar dros ben.  Siaradais efo'r Awdur - cadarnhau wnaeth bod copїau ganddo ef ond ei fod yn eu cadw ar gyfer ei deulu.  Ia, llyfr gwerth ei gael ac yr wyf am ddal i chwilio amdano!
Gyda diolch
Jones - Harlech a Nant Gwrtheyrn.
Conway - Llanasa, Sir y Fflint.
Mather a Livsey - Tabley ac wedyn Talsarnau, Gwynedd
Census Information Is Crown Copyright,from www.nationalarchives.gov.uk

Offline pinot

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 862
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Llyfr Hel Achau
« Reply #8 on: Thursday 21 October 10 23:30 BST (UK) »
Y fran wen yn dweud efallai bod 'na ail argraffiad efo gwelliannau ac ychwanegiadau ar y ffordd, mewn clawr papur; daliwch eich gwynt.
                     Pinot  :)