Author Topic: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen (Cwblhawyd)  (Read 11417 times)

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen (Cwblhawyd)
« on: Friday 03 December 10 21:41 GMT (UK) »
A oes rhywun yn gwybod beth oedd yr union berthynas rhwng y ddau uchod, ogdd ?
Bu rhaglen ar S4C am Ellis Williams yn Patagonia rhyw 4 mlynedd yn ol, tra roedd yr ail yn awdur.
Yr wyf wedi darllen llyfr y diweddar J Ellis Williams 'Cymylau amser' , ond nid wyf yn siwr os yw'n defnyddio enwau iawn ei deulu. Mae  cyfeiriad at Ellis Williams fel ei ewythr, ond a yw'r union gysylltiad ar gael yn rhywle ,ogdd . Credaf mai o ardal Penisarwaen/Brynrefail yr oedd y ddau yn dod.
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,656
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen
« Reply #1 on: Friday 03 December 10 23:36 GMT (UK) »
huwcyn,
Od byddwch chi'n googlo 'ellis williams patagonia' a chlicio ar 'ellis williams story S4C Language Centre' ddylwch chi ddod o hyd census 1841-1901 teulu Williams "Gors Llanddeiniolen". O'dd brawd Joseph a chwaer Harriett 'da Ellis. O'dd Joseph ar y fferm o hyd ar y Census 1911.

'Fyd, os byddwch chi'n googlo John Ellis Williams byddwch chi'n dod o hyd erthygl amdano. Cafodd e ei eni 20 8 1924. Felly, pwy o'dd ei dad? Joseph, brawd Ellis neu briododd Harriett Williams â rhywun enw Williams 'fyd?

Cwpl o bosibilrwyddau 'da FreeBMD
John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 662 cyfenw mam Jones
John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 654, cyfenw mam Davies
John Williams, Dec 1924, Carnarvon, 11b 591, cyfenw mam Davies
John E Williams, Dec 1924, Carnarvon, 11b 614, cyfenw mam Edwards

Mae 'na rhywbeth od yn yr erthygl Wikipedia. Mae'n sôn am "....his uncle ellis williams....". Cliciwch ar y link ellis williams - od iawn!!

cofion cynnes 

Offline wmffra

  • RootsChat Extra
  • **
  • Posts: 13
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen
« Reply #2 on: Thursday 09 December 10 16:49 GMT (UK) »
Rhyfedd o fyd!.
Gwneuthum ddarganfod ddoe fod Joseph, brawd Ellis Williams, Y Gors wedi priodi ac Annie Jones, chwaer ieuengaf fy nhaid.
Priodasant yn 1912 mi gredaf ac ymfudo i'r Unol Daleithiau ar y "Baltic" gan lanio yn Efrog Newydd ar y 5ed o Orffennaf 1913.  Roedd ei chwaer, Jane yn byw yno yn barod yn 147 West Street, Utica a hithau yn briod a Evan Williams.
Wmffra

Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen
« Reply #3 on: Thursday 09 December 10 19:31 GMT (UK) »
Mi oeddwn i o dan yr argraff mai Joseph Williams ( 1884 - 1951) ac Anne (Rowland ) Jones (1881-1976) oedd rhieni John Ellis Williams. A wnaethont ddychwelyd i Gymru cyn iddo gael ei eni, neu a ydwyf wedi drysu dau  set o Joseffs ac Annes !
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn


Offline hanes teulu

  • RootsChat Marquessate
  • *******
  • Posts: 8,656
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen
« Reply #4 on: Thursday 09 December 10 20:26 GMT (UK) »
Allwn i ddim deall y cyfeiriad at "Evan Williams". Pwy yw e?

'Sai Joseph wedi priodi â Anne Jones, fyddai hon cofrestriad yr 'enedigaeth ?

John E Williams, Sep 1924, Carnarvon, 11b 662, enw y fam Jones

cofion cynnes




Offline Huwcyn

  • RootsChat Veteran
  • *****
  • Posts: 869
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen (Cwblhawyd)
« Reply #5 on: Tuesday 14 December 10 12:34 GMT (UK) »
Diolch am bob cymorth. Popeth wedi ei ddatrys !
Owen , Parry , Pritchard, Foulkes  o Llanddeiniolen
Jones, Bellis o Sir Fflint
Williams o Beaumaris
Chambers o Dulyn
Rowlands o Tywyn

Offline Sionees

  • RootsChat Pioneer
  • *
  • Posts: 1
  • Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
    • View Profile
Re: Ellis Williams/John Ellis Williams, Llanddeiniolen (Cwblhawyd)
« Reply #6 on: Wednesday 01 June 11 21:37 BST (UK) »
Helo na - fi ydy mab John Ellis Williams ac hen nai Ellis Williams. Mae Wmffra yn gwybod pwy ydw i. Croeso i chi'ch dau arall gysylltu efo fi. Mae gan Wmffra fy manylion.

Pob hwyl,

Sion Rees Williams