Diddordol Alltcafan, diolch. Doeddwn i ddim wedi ei weld o'r blaen.
Dwi wedi dechrau digaloni gyda'r wefan ma braidd...mae cymaint o bobl yn darllen y 'posts' ond ychydig iawn yn ymateb, siomedig iawn!
Dwi'n siwr bod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n eu darllen, yn eu darllen gan bod yr enwau yn gyfarwydd a nhw. Bechod na fyddai mwy yn fwy parod i rannu eu hanesion a'u gwybodaeth, ac yn fwy parod eu cymorth, wedi'r cyfan, dyma yw pwrpas y wefan yma yn ei chyfanrwydd...ie ddim?
Mae rhai fel fi, sydd yn eithaf newydd i'r byd hel achau ma, angen pob tamaid o gymorth sy'n bosib ei gael ac er mor ddibwys y wybodaeth i eraill, gallai fod yn werthfawr iawn i mi a'm gwaith ymchwil!
Ond dyna fo...dwi di cael fy 'rant' am heno Alltcafan! Diolch i chi am eich neges beth bynnag

Cofion
Arwel