Oes yna rhywun yn cofio'r teulu Mather oedd yn byw am dros hanner canrif yn Ael-y-Bryn, Ynys, Talsarnau os gwelwch yn dda?
Daeth Robert Mather a'i wraig Eliza (Livsey) i aros yn Ynys Talsarnau tua 1897-8. Yr oedd ganddynt fachgen o'r enw Percy a gafodd ei eni yn Tabley, Knutsford ym 1894. Ganwyd mab arall iddynt (Robert Tecwyn) ym mis Ionawr 1898 a bu i Eliza farw 10 diwrnod yn ddiweddarach o glefyd y galon.
Ail-briododd yr hynaf o'r ddau Robert, ond nid tan 1922, y tro hwn efo Jane Jones, chwaer fy Nain o Flaenau Ffestiniog.
Nid wyf yn gwybod dim o hanes Percy ond gwn fod y ddau Robert wedi eu claddu yn y fynwent yn Ynys Talsarnau. Bu i'r Robert ieuengaf briodi Jane Winnie Edwards o Flaenau Ffestiniog - mae hithau wedi ei chladdu yno, ond nid wyf yn gwybod lle y claddwyd Jane Jones.
Bu Robert Tecwyn farw Hydref 14 1961 yn 63 mlwydd oed.
Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth.
Gyda diolch