Diolch i Chwiliwr daeth copïau o'r fersiwn Cymraeg a Saesneg drwy'r post bore ddoe, ac yr wyf wedi bod wrthi drwy'r dydd yn ei ddarllen. Ac yw! Am gyfrol gwerth chweil. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â chysylltiadau teuluol a Dolgellau i brynu copi. Yr wyf wedi bod yn hel achau ers degawdau, ond eto wedi canfod toreth o wybodaeth newydd am aelodau fy nheulu estynedig trwy ddarllen y gyfrol.
Bron i hanner canrif yn ôl rwy'n cofio gweld Nain yn gloywi'r medalau coffa mawr bres crwn er cof am ewythrod fy nhaid Hugh a John Humphreys ac iddi son bod taid wedi colli trydydd berthynas hefyd a bu fyw trwy'r cyfan o'r rhyfel mawr ond a bu farw yn yr Iwerddon ychydig ar ôl i'r rhyfel darfod. Gan na ddois ar draws hanes o'r fath yn fy ymchwil aeth yr atgof yn angof hyd imi ddod i ddiwedd cyfrol Chwilotwr a chanfod hanes Corporal David J Edwards, mab i fodryb fy nhaid, a dod a'r atgof yn fyw eto. Roedd gwerth prynu'r llyfr dim ond am y wybodaeth yma.