RootsChat.Com
home
forum
Help
Search
Calendar
Login
Register
RootsChat.Com
»
Wales (Counties as in 1851-1901)
»
Cymraeg - Welsh Language
(Moderator:
trystan
) »
teulu owen tyn y fawnog
Print
Reply
Pages: [
1
]
2
Author
Topic: teulu owen tyn y fawnog (Read 16081 times)
jimbach
RootsChat Extra
Posts: 89
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
teulu owen tyn y fawnog
«
on:
Wednesday 01 April 09 22:22 BST (UK) »
Hoffwn gael unrhyw wybodaeth ynglyn a teulu Owen,Ty'n y Fawnog,Talysarn,Dyffryn Nantlle a Cae'r Elwa ,Llangybi,Eifionydd. A oes disgynyddion yn byw yn lleol? Cysylltwch a mi.Diolch ymlaenllaw.
jimbach
RootsChat Extra
Posts: 89
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #1 on:
Thursday 02 April 09 19:52 BST (UK) »
hi jim got nothing on that one as yet
ElRow
RootsChat Member
Posts: 197
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #2 on:
Saturday 04 April 09 22:51 BST (UK) »
Sgwn i a ydych chi wedi gweld hanes Ty'n y Fawnog ar
www.nantlle.com
Os ewch chi i'r fersiwn Saesneg a chlicio Talysarn. Mae rhywun o'r enw Tudor Owen wedi ysgrifennu hanes Ty'n y Fawnog a theulu
Owen i fyny at 1861 pryd symudodd teulu fy ngwr i'r fferm. Mae gen i nhw ar gyfrifiad 1861, 1871, 1881, 1891 yn byw yn Ty'n y Fawnog ac mae gen i lun o'r hen le hefyd os hoffech chi weld e. Ond Rowlands yw teulu fy ngwr.
Mae'r wefan yn un diddorol.
Pob hwyl
Eleri
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from
www.nationalarchives.gov.uk
jimbach
RootsChat Extra
Posts: 89
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #3 on:
Sunday 05 April 09 09:33 BST (UK) »
Diolch o galon am yr atebiad Eleri.Roeddwn wedi darllen erthyglD.T.Owen ar y wefan.Rwyf yn chwilio yn arbennig am hanes y Parch William Owen a anwyd ynT.y.F. tua 1851.Bu farw tua 1922.Roedd ymMangor yn 1916 yn nhy ei chwaer Dorothy Eames(Moss Bank) adeg marwolaeth eu mham.Ar ol hynny does gen i ddim newydd. M.C.oedd william ac Ann ei wraig. Gyda llaw oes gan teulueich gwr gysylltiad a fferm Bodwina ynTrewalchmai neu a Rhosneigr? Diolch eto,Jim.
ElRow
RootsChat Member
Posts: 197
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #4 on:
Sunday 05 April 09 22:37 BST (UK) »
Does gen i ddim gwybodaeth am deulu y Parch William Owen, rwyn flin.
Hyd y gwn i does gan deulu fy ngwr ddim cysylltiad a'r ffermydd na'r ardaloedd y sonioch chi amdanyn nhw.
Rwy wedi gwneud cryn dipyn o ymchwil i'r teulu ond dydy'r enwau hynny ddim yn canu cloch.
Pob lwc i chi a'ch ymchwil chi.
Eleri
Pugh - Dolgellau, Llanfihangel y Pennant MER
Jones - Llandybie, Llandeilo
Evans - Llanboidy, Llanwinio, Trecynon
Watkins - Hirwaun, Merthyr Tydfil, Pontypool
Rowlands - Caernarfon, Llanllyfni
Morris - Llanegryn, Llanllyfni
Jones - Llanllyfni, Clynnog
Thomas - Llanllyfni, Caernarfon
This information is Crown Copyright, from
www.nationalarchives.gov.uk
wheldon
RootsChat Member
Posts: 103
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #5 on:
Monday 06 April 09 14:50 BST (UK) »
Beth am edrych ar goeden 131 yn llyfr T.Ceiri Griffith. A ydych wedi chwilio am Cadair Elwa? Os nad oes gennych gopi, gadewch i mi wybod.
jimbach
RootsChat Extra
Posts: 89
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #6 on:
Tuesday 07 April 09 09:34 BST (UK) »
Eleri Diolch am y neges a'r awgrymiad.Dwi wedi darganfod mae mab william Owen oedd Gwilym Owen,Prifathro coleg y brifysgol,Aberystwyth.Felly dwi ron bach yn nes. Diolch eto am eich cymorth. Jim.
sianrowl
RootsChat Extra
Posts: 7
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #7 on:
Saturday 20 August 11 23:14 BST (UK) »
Eleri, wyti'n berthi i'r teulu rowlands o tal y sarn? fel william eifion rowlands... taid fi odd e a nath o byw yn tyn y fawnog tua 1930 neu wbath.
Ella mae dy ngwr yn rhan o teulu fy naid? ma na siawns... wel os di nwh o tal y sarn.. lle fach rili.
Plis gadal imi wbod.
Sian.
pinot
RootsChat Veteran
Posts: 862
Census information Crown Copyright, from www.nationalarchives.gov.uk
Re: teulu owen tyn y fawnog
«
Reply #8 on:
Sunday 21 August 11 23:48 BST (UK) »
Hwyrach y byddai'r edefyn yma o ddiddordeb ichi, gan ei fod yn ymwneud a Thyn y Fawnog:
http://www.rootschat.com/forum/index.php/topic,111005.0/topicseen.html
Pinot
Print
Reply
Pages: [
1
]
2
RootsChat.Com
»
Wales (Counties as in 1851-1901)
»
Cymraeg - Welsh Language
(Moderator:
trystan
) »
teulu owen tyn y fawnog