This is the longer obit. I could not get the link in my Word Doc. to work.
ROBERT R. HUGHES. Wedi hir gystudd, ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn Uon (1892), hanodd ein hanwyl frawd Robert R. Hughes, wedi cyrhaedd yr oedran tego 72 mlwydd, 1 mis a 22 o ddydd- iau. Achos ei farwolaeth oedd tumor yn yr ystumog. Ganwyd Mr. Hughes yn y Berth, plwyf Abergele, Sir Ddinbych, Tachwedd 9, 1818, Enwau ei rieni oedd Hugh a Mary Hughes. Ymbriododd Gorphenaf 8, 1841, ag Elinor, merch David a Mabella Lloyd. Syinudas- ant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1869, a sef- ydlasant yn Radnor, Ohio. Oddeutu wyth mlynedd yn ol, symudasant i'r ardal hon, sef Horeb, Swydd Van Wert, Ohio. Gan- wyd iddynt ddeuddeg o blant, ûeg o ba rai, yn nghyd a'u mam, sydd yn fyw, ac yn galaruy golled o briod tyner a thad anwyl. Yr oedd iddo bedwar o frodyr, un o ba rai yw y Parch. Hugh Hughes, Liverpool, sydd yn fyw. Yr oedd wedi ei fendichìo a chorph cad- arn. Nid yn aml y ceid ty o glai wedi ei adeiladu mor gadarn; eto, er mor gadarn, dadfeiliodd a chwympodd. Tua dwy flyn- edd yn ol, yn ddystaw, yn lleohwraidd, yn ddiarwybod, dirfu i angeu ddechreu ar y gwaith o dynu yr adeilad eadiru i lawr. Gwaith araf a wnaeth, ond sicr. Cafodd gystudd poenus iawn yn y misoedd olaf, yn enwedig yr wythnosau olaf. Gwywodd yn raddol dan ddwylaw oerion angea, ac ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon, ehedodd yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes. Daearwyd yr hyn oedd farwol o hono yn yn mynwent Horeb, Swydd Van Wert, U.,. Sadwrn, Ionawr 3ydd. Daeth tyrfa fawr yn nghyd ar yr achlysur. Gweinyddwyd yn. 18921 MARWOLAETHAU SWYDDOGION EGLWYSIG. 71 y ty gan D. Jewett Davies, ao ar lan y bedd gan y Parchn. Isaac Edwards, Jackson, a Thomas Eoberts, Venedocia. Y Sabboth canlynol, pregethwyd pregethau angladdol gan D. Jewett Davies ac Isaac Edwards. Sfr oedd yn meddu ar alluoedd meddyliol cryf; nid meddwl bach, eiddil, mewn corph cryf, ond meddwl cadarn mewn corph cadarn. Er na chafodd ond ychydig o fan- tais addysg, eto llafuriodd lawer am wybod- aeth, yn enwedig am wybodaeth ysgrythyrol —y wybodaeth ragoraf o bob gwybodaeth. Yr oedd yn gadarn ac yn iach yn yr Ysgryth- yran. Ffermwr
oedd wrth ei alwedigaeth— gelwedigaeth naturiol mwyaf urddasol a mwyaf manteisiol i fywyd crefyddol. Yr oedd yn ffermwr o radd dda. Yr oedd ei fferm, a phob peth yn perthyn iddi yn dwyn tystiolaeth i hyn. Yr oedd yn gymydog da, caredig, ffyddlon a chymwynasgar. Yr oedd yn grefyddol o'i febyd. Parha- haodd yn grefyddol trwy ei oes, a bu farw yn grefyddol. Nid peth bach yw cadw o fewn eglwyg Dduw am oddeutu 7i)mlynedd, yn ngwyneb tetuta6iynau y byd, cnawd a'r diafol; er bywiogrwydd ieuenctyd a'i hudol- ìaethau; er gofal a llafur canol oed, a chodi teulu mawr. Cadwyd a chadwodd ei droed rhag llitbro. Ymdrechodd ymdrech deg (hardd), gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd, a hyderwn yn sicr fod coron cyfiawn- der wedi ei rhoddi i'w chadw iddo ef, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, iddo yn y dydd hwnw. Yr oedd ei dad yn Annibynwr, a'i fam yn Fethodist. Dim yn rhyfedd fod Eobert Hughes yn Fethodist i'r carn, gan fod ei fam felíy. Yr oedd yn athraw rhagorol yn yr ysgol Sabbothol. Yr oedd wedi cymwyso ei hua i hyn trw.y lafurio pan yn ieuanc am wybod- aeth ysgrythyrol. Pan yn 18 oed, dewiswyd ef yn athraw ar ddosbarth yr athrawon, heb- law cael ei ddewis i fod yn athraw ar gyfar- fod darlleD. Diamheu mai fel athraw yr oedd yn rhagori. Yr oedd yn gadarn yn yr athrawiaeth. Yr oedd yn hoff iawn o Cate- cism Brown, gwaith Calhoun, ac yn hoff iawn o ddarlíen ac astudio yr Epistol at y Bhufeiniaid. Yr oedd yn wrandawr ardderchog. Yr oedd yn medru gwerthfawrogi pregeth a a sylwedd à swmp ynddi. Yr oedd yn medru gwahaniaethu rhwng sum a sylweäd mewn pregeth; ymborth oedd am dano, ac nid blodau; gwirionedd yr efengyl, ac nid wit a stories. Teímla ysgrifenydd hyn o gof- iant golled fawr ar ei ol fel gwrandawr, Mae colli un gwrandawr o fath ag oedd Mr. Hughes yn fwy colled na cholli haner Uon'd capel o ryw fath o wrandawyr. Yr oedd yn meddu digon o wybodaeth ysgrythyrol i werthfawrogi " pregethu y gair.'' Yr oedd Mr. Hughes yn weddiwr gafaelgar, call, trefnus, a'i ysbryd yn cynesu pan yn diolch am "Iawn Calfaria," ac am drefn i achub pechadur colledig. Medrai hefyd weddio yn bwrpasol i'r amgylchiadau.
ei fod yn hynod am wneyd pob peth yn iawn. Ei reol bob amser gyda ei alwedig neth fel amaethwr, yn gystal a chylchoedd eraili, ydoedd gwneyd pob peth yn iawn, goreu byth ag y medrai, fel yr oedd hyny wedi dyfod mor naturiol iddo nes ei wneyd yn hynod ddeheuig gyda phob peth yr ymaflai'ei law ynddo i'w wneuthur. Byddai mor ofalus wrth ysgrif- enu Uythyr at gyfaill, fod pob brawddeg mor ddarllenadwy a phe byddai i'w argraffu yn llyfr i'r byd dros byth. Ni wyddai Mr. Hughes am y brofedigaeth o fod yn esgeu- lus gyda yr un gorchwyl a gymerai i'w wneuthur. Fel cyfaiJl, yr oedd yn Uawn cydymdeim- lad—yn barod i lawenhau gyda rhai fyddai yn Uawen, a wylo gyda y rhai oedd yn wylo. Yr oedd yn un hynod am fwynhau cymdeithas ei ffryndiau. Byddai ei siriol- deb wrth ei gyfarfod yn gwisgo gwedd mor